Mae’n bleser eich croesawu i dudalen Yr Ysgol Ganol. Blynyddoedd allweddol yn siwrnai addysgol unrhyw ddisgybl yw’r Ysgol Ganol a hyderaf fydd gan ein holl ddisgyblion y cyfle i wneud cynnydd ac i gyflawni eu potensial yn ystod y blynyddoedd hyn.
Yn sicr, bydd hi’n braf cael dathlu llwyddiannau’r disgyblion yn ystod y flwyddyn ar y dudalen hon wrth iddyn nhw ymuno’n frwdfrydig yn holl weithgareddau’r ysgol. Rydym yn hyderus bydd y cyfleoedd amrywiol sy’n cael eu darparu i’r disgyblion yn allgyrsiol ac yn y dosbarth yn arwain at gynnydd cymdeithasol ac academaidd.
Diolch am ymweld â’n tudalen.
Mrs Rachel Llwyd
Pennaeth yr Ysgol Ganol
[email protected]
01443 57 00 63
Mrs Yazmin Bradberry
Deputy Head of Middle School
[email protected]
01443 57 00 58
Rhif cofnodi absenoldeb : 01443 57 00 50
** Lle nad yw disgybl yn gallu cael mynediad i Hwb (gan gynnwys Google Classroom), gofynnwn i rieni/gwarchodwyr i ebostio Mr Gareth Williams am gymorth pellach: [email protected] **