Ysgol Hŷn

 

Mae sefydlu’r Ysgol Hŷn yn gyfnod cyffrous a dyma’r cyfle i ni roi addysg well fyth i’n dysgwyr. Mae ystod eang o gyfleoedd o fewn yr Ysgol Hŷn i roi cyfle i bob disgybl ffynnu, boed hyn drwy gyrsiau addysg uwch fel ‘Camu Mlaen’ Prifysgol Caerdydd i Ysgol Haf Coleg yr Iesu yn Rhydychen. Bydd ymyraethau ‘Hwb Seren’ hefyd yn ddatblygiad cyffrous i nifer o aelodau’r Ysgol Hŷn a bydd hwn yn arwain at gyfleoedd uwch-gwricwlaidd fel cyrsiau ‘MOOC.’ Darperir ein rhaglen Mentora a Chynnydd i bawb yn yr Ysgol Hŷn.

 

Llŷr Evans
Pennaeth yr Ysgol Hŷn

[email protected]
01443 57 00 56

Llongyfarchiadau i Swyddogion yr Ysgol Hŷn . Prif Swyddogion – Ffion Thomas a Llew Jones Dirprwy Brif Swyddogion – Osian Evans, Carys Davies, Iestyn Davies a Shauna Langford-Hopkins.

** Lle nad yw disgybl yn gallu cael mynediad i Hwb (gan gynnwys Google Classroom), gofynnwn i rieni/gwarchodwyr i ebostio Mr Gareth Williams am gymorth pellach: [email protected] **