Ysgol Uchaf

Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at fis Medi 2019 ac at sefydlu Ysgol Garth Olwg. Bwriadwn gydweithio fel un gymuned; disgyblion, staff, rhieni a’r gymuned ehangach i sicrhau ein bod yn sefydlu ysgol sy’n meithrin parch, annog uchelgais a balchder.

Mae sefydlu’r Ysgol Uchaf yn gyfnod cyffrous a dyma’r cyfle i ni roi addysg well fyth i’n dysgwyr wrth i’r disgyblion ymgymryd â chyfnod cyffrous yn eu haddysg gan gynnwys dewis opsiynau, ymgymryd â chyrsiau TGAU a sefyll arholiadau allanol. Hyderwn bydd pob un disgybl yn anelu’n uchel ac yn dangos parch er mwyn sicrhau llwyddiant a hapusrwydd i bob disgybl yn Ysgol Garth Olwg.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho’r Llyfryn Llwybrau Dysgu ôl 16.

Kath Adsett
Pennaeth yr Ysgol Uchaf

[email protected]
01443 57 00 55

Rhodri Jones
Dirprwy Pennaeth yr Ysgol Uchaf

[email protected]
01443 57 00 52

Rhif cofnodi absenoldeb: 01443 57 00 50

** Lle nad yw disgybl yn gallu cael mynediad i Hwb (gan gynnwys Google Classroom), gofynnwn i rieni/gwarchodwyr i ebostio Mr Gareth Williams am gymorth pellach: [email protected] **