Amdano ni

Pleser yw cael eich croesawu i’n gwefan newydd. Mawr obeithiaf y cewch fwynhad o bori drwy ein gwefan lle cewch flas ar yr holl gyfleoedd a gweithgareddau y mae ein staff ymroddgar yn eu darparu i’n disgyblion. Yma hefyd cewch ddathlu gyda ni yn llwyddiannau ein disgyblion gweithgar a thalentog.

Ymhyfrydwn yn ein Cymreictod, a’n hetifeddiaeth gref ac arloesol, ac rydym yn ymwybodol o’n cyfrifoldeb i sicrhau bod Ysgol 3 – 19 Garth Olwg yn darparu’r addysg orau bosib i’n dysgwyr.

Mae ethos yr ysgol wedi ei seilio ar y gwerthoedd canlynol:

  • Meithrin Parch
  • Annog Uchelgais
  • Cydweithio fel Un Gymuned

Drwy ganolbwyntio ar y gwerthoedd yma rydym yn sicr y bydd ein disgyblion yn gwneud cynnydd ac yn cyflawni eu potensial gyda gwên.

Diolch yn fawr am ymweld â’n gwefan.

Trystan Edwards.

Prifathro.